Gwirfoddoli

Os nad ydych chi’n teimlo’n barod i gamu i swydd newydd, gallai gwirfoddoli eich helpu i wneud y pethau hyn:

  • Magu hunanhyder ac ysgwyddo cyfrifoldebau newydd
  • Teimlo bod rhywun yn rhoi gwerth arnoch
  • Teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth
  • Cael profiadau newydd neu ddysgu sgiliau newydd
  • Datblygu a defnyddio’r sgiliau sydd gennych eisoes
  • Ychwanegu at eich CV a chael geirdaon
  • Mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a salwch sy’n deillio o fod yn ddi-waith

Gwirfoddoli i fod yn rhan o ymgyrch neu achos sy’n agos at eich calon yw’r ffordd orau un o gwrdd â phobl o’r un anian â chi. Mae cydweithio i wireddu newid yn ffordd wych o feithrin cyfeillgarwch ac o ddod yn rhan o gymuned sy’n para. Mae hefyd yn ffordd o gwrdd â phobl o wahanol gefndir – pobl na fyddech chi, o bosibl, yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd.

Mae llawer o wirfoddolwyr yn synnu cymaint o hwyl sydd i’w gael o roi i eraill. Nid yw pob profiad gwirfoddol yr un fath, ond os cewch chi hyd i gyfle sydd at eich dant, mae siawns dda y cewch chi gryn dipyn o hwyl tra byddwch chi’n rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.

Mae rhoi yn gwneud i ni deimlo’n dda. Drwy wirfoddoli, fe gewch chi gyfle i rannu’ch set unigryw o sgiliau i helpu i wella bywydau pobl eraill.