Llefarwyr

O ran unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Kayleigh Jones ar 01550 721813 neu kayleigh@primecymru.co.uk.

Gallwn drefnu cyfweliadau â staff neu gleientiaid – gweler y rhestr o’n prif lefarwyr isod.

David Pugh

PRIME Cymru’s Chief Executive


Fel ein Prif Weithredwr a Chyn-Gyfarwyddwr Gweithrediadau, mae gan David wybodaeth helaeth am sector cyflogaeth hŷn Cymru.

Mae David yn siarad yn rheolaidd ar ran PRIME Cymru mewn digwyddiadau ac ar y cyfryngau.

Andrew Morgan

PRIME Cymru Chairman


Andrew yw Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Mae gan aelodau’r Bwrdd gyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sy’n sicrhau bod modd iddynt gynorthwyo PRIME Cymru i gyflawni ei nodau. Eu rôl nhw yw hyrwyddo gweledigaeth a gwerthoedd PRIME Cymru.

Hayley Ridge-Evans

Director of Operations


Mae Hayley wedi bod yn gweithio i PRIME Cymru ers 2001, gan gyflawni swyddi amrywiol o fewn y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ar hyn o bryd, Hayley yw’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am oruchwylio ein prosiectau a’n gwaith codi arian.