Ymddiriedolwyr

Andrew Morgan - Cadeirydd


Mae Andrew yn Rheolwr Portffolio ac yn Gyd-Bennaeth Walker Cambria, grŵp rheoli cyfoeth a buddsoddiadau. Ac yntau’n dod yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, mae Andrew wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithio yn Ninas Llundain fel rheolwr cronfa gyda chwmni Mitsubishi-UFJ Asset Management lle bu’n arbenigo yng nghyfrannau ecwiti’r Deyrnas Unedig ac Ewrop. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio ym maes cyfrannau ecwiti byd-eang gyda BlackRock, cwmni rheoli asedau mwyaf y byd. Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, bu Andrew’n rheoli portffolios cleientiaid preifat i gwmni Brewin Dolphin.

Ymhlith cymwysterau proffesiynol Andrew mae’r dynodiad Dadansoddwr Ariannol Siartredig a’r Dystysgrif Rheoli Buddsoddiadau. Mae ganddo hefyd Radd Meistr yn y Celfyddydau mewn Hanes Modern o Goleg Prifysgol Llundain.

Sarah Finnegan-Dehn - Dirprwy Gadeirydd


Mae Sarah yn hyfforddwr, mentor ac ymgynghorydd gweithredol llawrydd. Fel llawer o gleientiaid PRIME Cymru, fe newidiodd drywydd ei gyrfa, a hithau yn ei phumdegau, ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y sector cyfarwyddyd gyrfaoedd.

Mae wedi cyfrannu at y proffesiwn gyrfaoedd drwy gydol ei bywyd proffesiynol. Yn ystod ei chyfnod gyda Gyrfa Cymru, bu Sarah yn gweithio fel Prif Weithredwr Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr y Gogledd. Yn fwyaf diweddar, bu’n arwain ar ddatblygu strategol a thrawsnewid digidol. Bu hefyd yn Llywydd Sefydliad Cyfarwyddyd Gyrfaoedd y Deyrnas Unedig ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Datblygu Gyrfa. Mae Sarah yn credu y bydd rôl y gweithiwr hŷn yn hollbwysig yn y dyfodol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nyfodol gwaith a’r ffordd y mae’r farchnad lafur yn newid.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi ymddiddori ym maes iechyd ac mae hi bellach yn cynorthwyo’r Cyngor Iechyd Cymuned fel un o’r ddau aelod annibynnol o’i Fwrdd.

A hithau’n dod yn wreiddiol o Brighton, bu’n byw yn Ynys Môn ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac mae wedi dysgu Cymraeg. Mae ganddi ddau blentyn sy’n oedolion erbyn hyn. Fel un o ymddiriedolwyr PRIME Cymru, mae’n aelod o’r Pwyllgor Cyllid ac Archwilio ac mae’n edrych ymlaen at barhau i roi’r si ar led am bopeth y mae PRIME Cymru yn ei gyflawni.

Brian Birtles

Trustee & PRIME Cymru Mentor


Rhwng 2004 a 2011, fel Sylfaenydd, Cadeirydd Gweithredol a Chyfarwyddwr Masnachol, llwyddodd Brian i lywio Bluefish o fod yn gwmni newydd i fod yn gwmni â throsiant a gwerthiant masnachol o dros £10m. Gwerthwyd y busnes hwnnw i Vodafone.

Mae gan Brian hefyd dros ugain mlynedd o brofiad ym maes telathrebu, TG a’r cyfleustodau. Bu’n Gyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata gyda chwmnïau Alcatel ac East Midlands Electricity; sefydlodd a rhedodd fusnes mesuryddion, Powergen, â throsiant o £45 miliwn a 650 o staff cyn ei werthu i Siemens; bu’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau busnes a oedd yn gwasanaethu 2.3 miliwn o gwsmeriaid; a bu’n Brif Swyddog Gweithredol Cambridge Network Ltd. Mae Brian hefyd yn un o fentoriaid PRIME Cymru ers dechrau 2015.

Sian Phillips


Mae Siân yn Radiolegydd Ymgynghorol ac yn Gyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Delweddu a Chanser. Mae’n weithgar ym maes addysg feddygol i israddedigion ac uwchraddedigion, ac mae’n Ddeon Cyswllt ar gyfer Radioleg yn y corff newydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fel aelod gweithredol o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr, mae wedi cyfrannu fel aelod at y Bwrdd Cymorth a Safonau Proffesiynol ac fel arholwr ar gyfer Cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Radiolegwyr. Mae Siân yn Hyfforddwr/Mentor hyfforddedig sy’n mynd ati i gynorthwyo’r rheiny mewn swyddi uwch.

Ers sawl blwyddyn, bu Siân yn un o noddwyr brwd PRIME Cymru ac mae’n falch o gael ei phenodi’n ymddiriedolwr i gefnogi datblygiad, prosiectau a chynlluniau’r elusen.

Stephen Pegge


Mae Stephen yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cyllid a Bancio Masnachol gydag UK Finance, cymdeithas fasnach y sector ariannol sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn Ewrop ym maes cyllid busnes. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Angylion Busnes y Deyrnas Unedig. Bu’n gweithio yn y sector ariannol ers 35 mlynedd a bu’n cadeirio bwrdd cynghori Cymdeithas Bancwyr Prydain o ran busnesau bach a chanolig am ddeng mlynedd.

Bu Stephen yn astudio Economeg yng Ngholeg Prifysgol Llundain ac mae ganddo gymwysterau proffesiynol mewn bancio a marchnata. Mae’n byw yng ngogledd Gwlad yr Haf gyda’i wraig Cordelia, ac mae’n rhannu ei amser rhwng Llundain, Cymru, a de-orllewin Lloegr.

Bu Stephen yn arwain y gwaith o sefydlu fframwaith y Deyrnas Unedig i roi cymorth mentora gwirfoddol o ran mentergarwch, a bu’n Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr PRIME Cymru am naw mlynedd.

Annabel Graham Paul


Penodwyd Annabel yn un o ymddiriedolwyr PRIME Cymru yn 2018. Mae’n fargyfreithiwr sy’n arbenigo yn y gyfraith cynllunio ac amgylcheddol. Ymhlith ei hachosion diweddar, bu’n gweithredu yn yr ymchwiliad cynllunio i ran newydd o’r M4 o amgylch Casnewydd. Ei nod yw dod â’i harbenigedd cyfreithiol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.

Mae’n byw gyda’i theulu ger Llanymddyfri a bu’n Faer Llanymddyfri yn 2018–19. Yn ei hamser hamdden, mae Annabel yn canu’r sielo a’r piano, ac mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr y London Sinfonietta, prif ensemble cerddoriaeth gyfoes y Deyrnas Unedig.

John Newton


Ganed John yng Nghaerdydd ac fe’i magwyd yng Nghasnewydd. Enillodd radd anrhydedd ail ddosbarth uwch mewn Gwyddorau Rheoli o Brifysgol Manceinion, ynghyd â gradd M.Phil. o Brifysgol Caerdydd lle bu’n ymchwilio, yn ei amser ei hun, i brosesau penderfynu ariannol prifysgolion.

Ac yntau’n Gymrawd o Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheoli, mae gan John gyfoeth o brofiad ac arbenigedd ym mhob maes cyfrifyddu a rheoli ariannol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Am dair blynedd, bu’n Gydgysylltydd Cenedlaethol Costio a Phrisio ar gyfer sector addysg uwch y Deyrnas Unedig, ac mae wedi trefnu llawer o gynadleddau cenedlaethol am gostio, prisio a thestunau cysylltiedig.

Ddiwedd 2013, bu iddo ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n mwynhau teithio, cerdded, gwirfoddoli yn y gymuned, boules, bowls, a chefnogi PRIME Cymru. Mae’n mawr obeithio y bydd modd ehangu gwaith pwysig a llwyddiannus yr elusen i helpu hyd yn oed mwy o bobl.