Dod yn noddwr

Gyda’ch cymorth a’ch cyfraniad ariannol, bydd modd i ni fynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae pobl economaidd anweithgar yn eu hwynebu, fel diffyg hunan-barch, teimlo eu bod wedi’u hynysu, teimlo eu bod ar y cyrion, a thlodi yn eu henaint.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn un o noddwyr PRIME Cymru, cysylltwch â ni ar 01550721813 neu enquiries@primecymru.co.uk.

Gallech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl – eu helpu i adennill eu hyder, i gael hyd i bwrpas, i fod yn rhan o’r gymuned ac, yn hollbwysig, i gael sicrwydd ariannol eto.