Staff Swyddfa’r Gogledd

 

Cordelia Hughes - Cynorthwyydd Gweinyddol

Administration Assistant


Ymunodd Cordelia â PRIME Cymru pan agorwyd swyddfa’r Gogledd yn 2014. Bydd unrhyw un sy’n ffonio ein swyddfa ym Mae Colwyn yn siarad â Cordelia yn gyntaf, a bydd hi’n cysylltu â’n Swyddogion Datblygu yn y Gogledd.

Cyn ymuno â ni, bu’n gweithio i Dŵr Cymru a bu ganddi swyddi gweinyddol amrywiol.

Swyddogion Datblygu

Roger Beer

Development Officer Flintshire/Wrexham


Mae gan Roger dros 17 mlynedd o brofiad o weithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau lle bu’n cynorthwyo pobl i gael hyd i waith a hyfforddiant. Cyn hynny, bu’n rhedeg busnes llwyddiannus a oedd yn darparu gwasanaethau post ac ariannol i’r gymuned leol am 12 mlynedd. Tu allan i’r gwaith, mae Roger yn hyfforddwr pêl-droed ieuenctid gwirfoddol sy’n gyfrifol am drefnu sesiynau hyfforddi ac am godi arian.

Peter Brannan

Development Officer


Bu Peter yn gweithio fel addysgwr mewn sawl disgyblaeth – gwaith ieuenctid, darlithydd ar gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch, a gweithiwr prosiect gofal mewn argyfwng. Yn sgil ei brofiadau proffesiynol a phersonol, mae wedi meithrin ymwybyddiaeth o anghenion diwylliannol, cymdeithasol ac addysgol amrywiol unigolion mewn amgylchedd academaidd a phroffesiynol, ac mae’n sensitif i’r anghenion hynny. Yn y gorffennol, cafodd Peter ei hun gymorth gan PRIME Cymru i lunio cynllun datblygu busnes, cyn iddo ymuno â ni fel Swyddog Datblygu.

Caroline Allen


Mae Caroline wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector ers ugain mlynedd a mwy, gan gynnwys mewn swyddi gyda The Prince’s Trust – Cymru ac RCS Cymru. Ar hyd ei gyrfa, bu’n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i gael hyd i hyfforddiant, addysg a chyflogaeth, neu’u helpu i barhau i weithio pan fyddant yn wynebu anawsterau. Ymunodd â ni yn 2020 a bydd yn darparu’r un gwasanaeth i gleientiaid PRIME Cymru.