‘Rhoi rhai dros 50 oed ar ben ffordd’

Elusen gofrestredig yw PRIME Cymru, a’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar roi cymorth ymarferol i bobl hŷn, yn enwedig y rheiny dros 50 oed sydd am fod neu barhau i fod yn economaidd weithgar.

 
 
Mae anweithgarwch economaidd ymhlith rhai dros 50 oed yn broblem fawr yng Nghymru ac mae’r cyfraddau diweithdra’n cynyddu, gan beri i nifer o fawr o bobl fod yn ddibynnol ar fudd-daliadau. Mae pandemig y coronafeirws wedi rhoi mwy o bwysau ar weithwyr hŷn oherwydd eu bod yn fwy tebygol o fod yn sâl ac yn fwy tebygol o golli eu gwaith hefyd.

Mae PRIME Cymru yma i’ch helpu chi i ddychwelyd i’r gwaith.

Mae ein swyddogion datblygu a’n mentoriaid hyfforddedig yma i roi cymorth pwrpasol am ddim i gleientiaid ledled Cymru i’w helpu i gael hyd i waith, i ddechrau eu busnesau eu hunain, neu i achub ar gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
Fe’n sefydlwyd yn 2001 gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar ôl iddo dderbyn llawer o lythyrau gan bobl dros 50 oed a oedd yn teimlo eu bod wedi’u taflu ar y domen ac a oedd yn ei chael yn eithriadol o anodd cael hyd i swyddi â thâl oherwydd eu hoedran.

Dywedodd Ei Uchelder Brenhinol: “Rwy’n digwydd credu bod y profiad a’r sgiliau y bydd pobl yn eu meithrin drwy eu hoes yn adnodd amhrisiadwy a’i bod yn wallgof nad yw’r gymdeithas yn manteisio ar y pethau hyn. Mae PRIME Cymru yn dal i ddatblygu syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod modd i bobl hŷn fod a pharhau i fod yn economaidd weithgar.

“Rwy’n ymfalchïo mwy a mwy yn yr hyn y mae f’elusen, PRIME Cymru, yn llwyddo i’w gyflawni.”

Mae ein gwaith yn bwysig oherwydd….



Mae disgwyliad oes yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn cynyddu’n raddol, gan roi mwy o straen ar y wlad wrth i fwy a mwy o bobl ddod yn economaidd ddibynnol. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2018), gall bechgyn sy’n cael eu geni heddiw ddisgwyl byw tan iddynt fod yn 79.3 oed a gall merched ddisgwyl cyrraedd 82.9 oed. Mae Llywodraeth Cymru (2020) yn amcangyfrif bod mwy o bobl 65 oed a throsodd yn byw yng Nghymru (662,000) na phlant 0–15 oed (564,000).

Un awgrym i oresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â phoblogaethau sy’n heneiddio yw estyn ein bywyd gwaith. Dyna’r rheswm pam mai 66 yw oedran pensiwn y wladwriaeth erbyn hyn.

Serch hynny, bydd pobl yn aml yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag parhau i weithio ar sail amser llawn, gan gynnwys iechyd sy’n dirywio, cyfrifoldebau gofalu, a gwahaniaethu ar sail oedran. Gall PRIME Cymru eich helpu chi i bwyso a mesur eich holl ddewisiadau i gael hyd i ffordd o ateb eich gofynion chi.

 

Dywedodd Adrian: “Pan gysylltais â PRIME Cymru, roedd gen i syniad busnes, ond doedd gen i ddim syniad sut i’w wireddu. Fe ges i gymorth a chyngor penigamp o’r dechrau’n deg. Erbyn hyn, mae fy musnes ar waith ac ry’n ni eisoes wedi ennill sawl contract. Rwy’n ddiolchgar iawn i PRIME Cymru am bopeth y gwnaethon nhw i’m helpu i.”