Hysbysiad Preifatrwydd a Chyfreithiol
Bwriedir i’r hysbysiad preifatrwydd hwn roi gwybod i chi sut yr ydym yn casglu ac yn prosesu unrhyw wybodaeth y byddwn yn ei chasglu gennych, neu y byddwch yn ei rhoi i ni.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ac i gadw eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Nid dim ond mater o gydymffurfio â’r gyfraith yw ein polisi ni. Yn hytrach, mae’n estyniad o’r parch sydd gennym tuag atoch chi a’ch gwybodaeth bersonol.
Mae ein polisi’n cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 sy’n cynnwys gofynion Rheoliad Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Ddiogelu Data.
Manylion y cwmni
Mae PRIME Cymru yn elusen gofrestredig (Rhif 1140129) ac yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr (Rhif 4187497).
Cyfeiriad cofrestredig: Mile End, 9 Stryd Lydan, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0AR
Noddwr Sefydlu: Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru
Ffôn ac e-bost: 01550 721813, enquiries@primecymru.co.uk
Ymwadiad
Darperir yr holl wybodaeth a geir ar y wefan hon at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Fe’i darperir gan PRIME Cymru, neu le y nodir hynny, gan drydydd parti, ac er ein bod yn ceisio sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn rhoi unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n ddealledig, ynghylch cyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, addasrwydd nac argaeledd y wefan na’r wybodaeth, y cynhyrchion, y gwasanaethau na’r graffigau a geir ar y wefan at unrhyw ddiben. Felly, os byddwch yn dibynnu ar yr wybodaeth honno, byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hun.
Ni fyddwn ar unrhyw gyfrif yn atebol am unrhyw golled na niwed, gan gynnwys yn ddigyfyngiad, colled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu niwed o ba fath bynnag sy’n deillio o golli data, neu elw sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon neu mewn cysylltiad â hynny.
Drwy’r wefan hon, gallwch gysylltu â gwefannau nad ydynt o dan reolaeth PRIME Cymru. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys nac argaeledd y gwefannau hynny. O gynnwys dolenni at wefannau eraill, nid yw o reidrwydd yn awgrymu ein bod yn argymell nac yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir arnynt.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wefan yn gweithio’n hwylus. Fodd bynnag, nid yw PRIME Cymru yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb os na fydd y wefan ar gael am gyfnod oherwydd materion technegol sydd tu hwnt i’n rheolaeth, ac ni fydd yn atebol am hynny.
Y data a brosesir gennym
Gallem gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi. Rydym wedi coladu’r data hyn mewn grwpiau fel a ganlyn:
Mae eich hunaniaeth yn cynnwys gwybodaeth fel eich enw cyntaf, eich cyfenw, eich teitl, eich dyddiad geni, a manylion eraill sy’n dangos pwy ydych chi y gallech chi fod wedi’u darparu i ni ar ryw adeg.
Mae eich manylion cyswllt yn cynnwys gwybodaeth fel eich cyfeiriad bilio, eich cyfeiriad danfon, eich cyfeiriad e-bost, eich rhifau ffôn, ac unrhyw wybodaeth arall yr ydych wedi’i rhoi i ni er mwyn i ni gyfathrebu neu gyfarfod â chi.
Mae data technegol yn cynnwys eich cyfeiriad IP, y math o borwr a ddefnyddir gennych a’i fersiwn, eich parth amser a’ch lleoliad, y mathau o ategion porwr a ddefnyddir gennych a’u fersiynau, eich system weithredu, eich llwyfan ac unrhyw dechnoleg arall a geir ar y dyfeisiau a ddefnyddir gennych i bori’r wefan hon.
Mae data marchnata’n cynnwys eich dewisiadau o ran derbyn deunydd marchnata gennym; eich dewisiadau cyfathrebu; eich ymatebion a’ch gweithredoedd o ran y modd yr ydych yn defnyddio ein gwasanaethau.
Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom
Os oes angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract rhyngom ni a chi, ac nad ydych yn darparu’r data hynny pan ofynnir i chi wneud hynny, efallai na fydd modd i ni gyflawni’r contract hwnnw. Mewn achos o’r fath, gall fod rhaid i ni roi’r gorau i ddarparu gwasanaeth i chi. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn ar y pryd.
Eich dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadau
Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir ac yn gyfredol. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni os bydd eich data personol yn newid.
Cwynion am ein gwefan
Os byddwch yn cwyno am unrhyw gynnwys ar ein gwefan, byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn.
Os byddwn yn tybio bod modd cyfiawnhau gwneud hynny, neu os byddwn yn credu bod y gyfraith yn gofyn i ni wneud hynny, byddwn yn tynnu’r cynnwys oddi ar y wefan tra byddwn yn ymchwilio i’r mater.
Mae’r rhyddid i lefaru yn hawl sylfaenol, felly bydd rhaid i ni farnu hawl pwy sy’n cael ei rhwystro: eich hawl chi, neu hawl y sawl a bostiodd y cynnwys sy’n eich digio.
Os byddwn yn meddwl bod eich cwyn yn flinderus neu nad oes iddi sail, ni fyddwn yn gohebu â chi yn ei chylch.
Ceisiadau am swydd a chyflogaeth
Os byddwch yn anfon gwybodaeth atom mewn perthynas â chais am swydd, gallem ei chadw rhag ofn i ni benderfynu cysylltu â chi’n ddiweddarach.
Os ydym yn eich cyflogi, rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a’ch gwaith o bryd i’w gilydd drwy gydol cyfnod eich cyflogaeth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch cyflogaeth yn unig.
Cyfathrebu â ni
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, boed dros y ffôn, drwy ein gwefan neu drwy e-bost, byddwn yn casglu’r data yr ydych wedi’u rhoi i ni er mwyn i ni ymateb drwy ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch.
Rydym yn cofnodi’ch cais a’n hymateb i wella effeithlonrwydd ein sefydliad.
Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol adnabyddadwy sy’n gysylltiedig â’ch neges, fel eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, er mwyn i ni allu olrhain ein cyfathrebiadau â chi i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Cwcis
Ffeiliau testun bach sy’n cael eu gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur gan eich porwr gwe pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis. Maent yn caniatáu i wybodaeth a gasglwyd ar un dudalen we gael ei storio hyd nes bod angen ei defnyddio ar dudalen arall, gan roi profiad personol i chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan a chaniatáu i berchennog y wefan gasglu ystadegau am y ffordd yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn ei gwella.
Mae gwefan PRIME Cymru yn defnyddio nifer fach o gwcis i roi darlun cyffredinol gwell i ni o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r wefan, a sut y gallwn wella ein gwasanaethau i’n cleientiaid a’n cefnogwyr.
Gall rhai cwcis bara am gyfnod penodedig, fel diwrnod neu hyd nes i chi gau’ch porwr. Bydd eraill yn para am gyfnod amhenodol.
Dylai eich porwr gwe ganiatáu i chi ddileu unrhyw gwcis o’ch dewis. Dylai hefyd ganiatáu i chi atal defnydd ohonynt, neu gyfyngu arno.
Mae PRIME Cymru yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i olrhain y modd y mae pobl yn defnyddio’r wefan er mwyn i ni ddod i ddeall anghenion ein hymwelwyr yn well a phennu meysydd lle y gallwn wella. Mae’r wybodaeth a gesglir drwy’r broses hon yn hollol ddienw, ac nid oes modd adnabod ymwelwyr â’r wefan.
Cwcis offer rhannu a gwefannau’r cyfryngau cymdeithasol
Rydym wedi gosod offer rhannu ar y wefan hon er mwyn i chi allu rhannu gwybodaeth a gweithredoedd ag eraill drwy eich rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd y wefan yn gosod cwci. Nid yw PRIME Cymru yn rheoli’r weithred hon, a dylech gael cipolwg ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael gwybodaeth am ei bolisi cwcis.
Defnydd o’r wefan gan blant
Nid ydym yn gwerthu cynhyrchion nac yn darparu gwasanaethau i’w prynu gan blant, ac nid ydym yn marchnata i blant ychwaith.
Os ydych dan 18 oed, cewch ddefnyddio ein gwefan dim ond gyda chaniatâd rhiant neu warcheidwad.
Cwynion am ein polisi preifatrwydd
Os nad ydych yn fodlon â’n polisi preifatrwydd neu os oes gennych gŵyn, dylech roi gwybod i ni.
Paratowyd ein polisi preifatrwydd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith ym mhob gwlad neu awdurdodaeth gyfreithiol lle’r ydym yn bwriadu gwneud busnes. Os nad ydych yn credu ei fod yn bodloni cyfraith eich awdurdodaeth chi, hoffem glywed gennych.
Fodd bynnag, yn y pen draw, mater i chi yw dewis a ydych am ddefnyddio ein gwefan.
Adolygu’r polisi preifatrwydd hwn
Gallem ddiweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd yn ôl y gofyn. Y telerau sy’n berthnasol i chi yw’r rheiny sydd wedi’u cyhoeddi fan hyn ar ein gwefan ar y diwrnod y byddwch yn defnyddio ein gwefan. Fe’ch cynghorir i argraffu copi ar gyfer eich cofnodion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein polisi preifatrwydd, cysylltwch â ni.