Mentora
Mae mentora’n ffordd hollbwysig o lywio ein cleientiaid drwy’r broses o greu busnes a chael hyd i waith. Bydd ein mentoriaid fel rheol yn cydweithio â’n cleientiaid mewn cyfarfodydd un i un, ond gallant hefyd eu mentora dros y ffôn a drwy’r e-bost.
Allech chi fod yn fentor?
Mae PRIME Cymru bob amser yn chwilio am fwy o fentoriaid gwirfoddol â phrofiad ym maes busnes, cyllid, recriwtio, addysg a’r sector gwirfoddol i’w paru â chleientiaid ledled Cymru. Mae ein mentoriaid yn dod atom fel gwirfoddolwyr o bob math o gefndiroedd gwaith, gan rannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u harbenigedd. Mae eu cymorth a’u hanogaeth yn amhrisiadwy i’r rheiny y mae angen help llaw arnynt i wireddu eu breuddwydion busnes.
Cafodd cynllun mentora PRIME Cymru - Mentora Nawr! - ei sefydlu i ehangu’r cymorth proffesiynol a ddarperir i bobl sy’n chwilio am gyfle i wneud y pethau hyn:
- Dychwelyd i’r byd gwaith ar ôl cyfnod di-waith
- Dechrau gweithio iddyn nhw eu hunaint
- Cael hyd i gyfleoedd addysg a hyfforddiant
- Magu hunanhyder
- Cysylltu â’u cymuned drwy wirfoddoli
Cwrdd â mentor
Mae Teg Bevan o Bencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn fentor gyda PRIME Cymru ers sawl blwyddyn, ac mae wedi helpu nifer o gleientiaid i ddechrau eu busnesau eu hunain. Yn eu plith, roedd Nicola Munduz, mam sengl i dri o blant o Faesteg.Rhoddodd Teg gymorth un i un i Nicola pan aeth ati i droi ei diddordeb mewn celf ffydd yn fusnes bach – Art from the Heart. Erbyn hyn, mae Nicola’n gweithio ar brosiectau comisiwn preifat, yn arddangos ei gwaith mewn orielau, ac yn cynnal gweithdai ar gyfer grwpiau yn y gymuned leol.
Mae Teg yn sicr o fanteision mentora pobl dros 50 oed.
Dywedodd: “Rwy’n cael cymaint o foddhad o weld pobl hŷn yn adennill eu hunan-barch pan fyddan nhw’n cael hyd i bwrpas newydd yn eu bywydau. Cynllun mentora PRIME Cymru yw’r ffordd berffaith o wneud hyn – o fuddsoddi ychydig o amser, gall helpu pobl i ffynnu. Mae Nicola’n enghraifft wych o hyn. Rwy’n gobeithio y bydd canlyniadau ein gwaith yn ysbrydoli mwy o bobl i Fentora Nawr!”
I gael sgwrs anffurfiol gychwynnol am fentora, cysylltwch â Beverley Kennett, y Rheolwr Prosiectau, yn beverley@primecymru.co.uk neu ar 07969 518083.