Staff y Brif Swyddfa

David Pugh - Prif Weithredwr

Chief Executive


Ar ôl ennill gradd mewn Astudiaethau Busnes, dechreuodd David ar yrfa ym maes masnach a rheoli, gan weithio i gwmni rhyngwladol (British Alcan) cyn dod yn rheolwr cwmni dylunio a pheirianneg yn y De.

Yn 1998, penderfynodd David newid gyrfa a hyfforddi i fod yn athro yn y sector addysg bellach. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Datblygu a Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr Antur Teifi, asiantaeth hyfforddiant a menter busnes yn y Gorllewin.

Yn 2008, ymunodd David â PRIME Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau cyn cael ei benodi’n Brif Weithredwr yn 2009.

Hayley Ridge-Evans - Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Director of Operations


Mae Hayley wedi bod yn gweithio i PRIME Cymru ers 2001, gan gyflawni swyddi amrywiol o fewn y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar hyn o bryd, Hayley yw’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am oruchwylio ein prosiectau a’n gwaith codi arian.

Yn gynharach yn ei gyrfa, bu’n gweithio yn adran cysylltiadau cyhoeddus Dŵr Cymru ac mewn swyddi gweinyddol yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Cooperative Group.

Lesley Holdaway-Evans - Swyddog Cyllid

Finance Officer


Bu Lesley’n gweithio am flynyddoedd lawer yn niwydiant ffilm a theledu annibynnol Cymru, gan ganolbwyntio ar reoli agweddau ariannol prosiectau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweithio ar raglen Y Gwyll/Hinterland.

Yn y gorffennol, bu hefyd yn gweithio i gwmni cyfrifyddu ac i fusnes manwerthu teuluol a oedd yn arbenigo mewn hen bethau a nwyddau ar gyfer y tŷ.

Beverley Kennett - Rheolwr Prosiectau

Projects Manager


Mae Beverley’n rheoli llawer o brosiectau PRIME Cymru ledled Cymru.

Â’i chefndir yn y Ganolfan Byd Gwaith, mae hi’n gwybod yn union pa broblemau y bydd pobl yn eu hwynebu pan fyddant am fod yn economaidd weithgar, ac mae’n defnyddio’i sgiliau o’i swyddi blaenorol i gynorthwyo ac i gynghori pobl.

Wendy Davies - Swyddog Gweinyddol

Administrative Officer


Mae Wendy wedi bod yn gweithio i PRIME Cymru fel Swyddog Gweinyddol ers 2007.

Hi yw’r llais cyfeillgar ar ben arall y ffôn yn ein Prif Swyddfa sy’n barod i ymdrin ag ymholiadau a sgwrsio â’n cleientiaid o ddydd i ddydd.

Kayleigh Jones - Cydgysylltydd Cyfathrebu

Communications Co-ordinator


Ar ôl iddi orffen ei gradd mewn Newyddiaduraeth, bu Kayleigh’n gweithio fel fideograffydd llawrydd, gan greu fideos hyrwyddo ar gyfer gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol. Yna, fe aeth ati i gwblhau Tystysgrif Addysg i Raddedigion mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Yn ei swydd gyda PRIME Cymru, mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gynyddu cyhoeddusrwydd, rheoli’r brand ar-lein, ac ateb ymholiadau gan y cyfryngau.

Swyddogion Datblygu

Paolo Piana

Development Officer West Wales


Cafodd Paolo yrfa hir fel rheolwr manwerthu cyn mynd ati i redeg ei fusnes llwyddiannus ei hun am 14 mlynedd. Yn 2007, fe symudodd i Gymru ac fe gysylltodd â PRIME Cymru i ofyn am gymorth i newid trywydd ei yrfa. Ers hynny, bu ganddo swyddi gwahanol yn y sector gwirfoddol/cymunedol a bu’n mentora gwirfoddolwyr am chwe blynedd cyn ymuno â PRIME Cymru fel Swyddog Datblygu.

Janet Allen-Darby

Development Officer Mid Wales


Yn ystod ei gyrfa, bu Jan yn gweithio’n bennaf ym maes y celfyddydau, dylunio graffig a hunangyflogaeth, ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad amrywiol i’w swydd fel Swyddog Datblygu. Ers iddi gymhwyso fel athrawes, mae wedi darparu hyfforddiant TG a chyflogadwyedd, ac mae wedi treulio’r chwe blynedd diwethaf yn cynorthwyo cleientiaid i gael hyd i waith ac i ddechrau eu busnesau eu hunain. Mae wrth ei bodd yn helpu pobl i oresgyn rhwystrau ac i wireddu eu potensial.

Paul Pickering

Development Officer South Powys


Mae Paul wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector a’r proffesiwn cymorth cyflogaeth ers blynyddoedd lawer. Cyn iddo ymuno â PRIME Cymru, bu’n gweithio i Ymddiriedolaeth Shaw, gan gynorthwyo unigolion hŷn i chwilio am waith, dychwelyd i swyddi â thâl, a chael hyd i hyfforddiant a swyddi gwirfoddol. Mae Paul wedi gweithio gyda grwpiau amrywiol o gleientiaid, gan gynorthwyo pobl o bob cefndir i oresgyn llawer o wahanol rwystrau. Mae hefyd yn gyfarwydd iawn â’r sectorau gweithgynhyrchu a pheirianneg gan ei fod wedi gweithio yng ngwaith dur TATA.

Janet Davies

Development Officer South Powys


Ym maes recriwtio y dechreuodd cefndir cyflogaeth Janet. Mae’n mwynhau helpu pobl i gael hyd i waith, gan ddefnyddio’i sgiliau mentora ac ysgogi i baru cleientiaid â swyddi priodol. A hithau wedi gweithio mewn sawl diwydiant a sefydliad gweithgynhyrchu gwahanol, mae ganddi hefyd gyfoeth o brofiad masnachol. Cyn hyn, bu’n gweithio fel Swyddog Gweithredol Cyflogaeth a Hyfforddwr Gwaith ar Raglen Waith y Llywodraeth.

Jeff Jones

Development Officer


Am chwarter canrif a mwy, bu Jeff yn gweithio yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu mewn swyddi a oedd yn amrywio o Dechnegydd i Uwch-reolwr. Yn sgil cyflwr meddygol difrifol, bu’n ddi-waith am gyfnod a bu’n rhaid iddo newid trywydd ei yrfa. Bu iddo ailhyfforddi i fod yn hwylusydd rheoli ac iechyd a diogelwch mewn sefydliadau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu, a bu Jeff yn rhedeg ei fusnes llwyddiannus ei hun am flynyddoedd lawer.

Hilary Vaughan

Development Officer


Mae Hilary wedi newid gyrfa sawl gwaith. Bu’n gweithio’n bennaf ym maes rheoli cyfleusterau a phrifysgolion. Ar ôl colli ei swydd ddegawd yn ôl, symudodd Hilary i’r maes hyfforddiant a chymorth cyflogaeth ac mae hi bellach yn defnyddio’i phrofiad eang i ddarparu hyfforddiant ysgogi, magu hyder a sgiliau cyflogadwyedd. Mae’n rhoi cymorth busnes a chyflogaeth i ystod eang o grwpiau cleientiaid.

Debbie Price

Development Officer


Yn ystod ei gyrfa hir ac amrywiol, bu Debbie’n gweithio mewn llawer o ddiwydiannau mawr, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ganlyniadau ymgysylltu â chyflogeion. A hithau wedi cael profiad personol o golli ei swydd a goroesi, dechreuodd weithio fel mentor gyda PRIME Cymru, ac fe’i henwebwyd ar gyfer Gwobr Mentor y Flwyddyn PRIME Cymru. Yn sgil hyn, ymunodd â’r tîm fel Swyddog Datblygu ac mae hi wrth ei bodd â’i swydd.

Tom Hughes-Lewis

Development Officer


Ar ôl ennill gradd Rheolaeth a Busnes o Brifysgol Aberystwyth, dechreuodd Tom ar yrfa yn y sector manwerthu lle bu’n gweithio mewn nifer o swyddi rheoli mewn siopau adrannol mawr. Ymunodd Tom â PRIME Cymru yn 2018 fel Cydgysylltydd y Prosiect Mentoriaid. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel Swyddog Datblygu yng Ngheredigion.