A hithau’n 74 oed, bu PRIME Cymru yn cynorthwyo Barbara i ysgrifennu ei CV cyntaf erioed a chael hyd i swydd â thâl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
“Doedd dim galw am CV ar gyfer fy swyddi blaenorol. Roedd pob un ohonyn nhw’n seiliedig ar ffurflen gais, ac roeddwn i hefyd yn gweithio mewn sector lle roedd gen i brofiad helaeth. Fe wnaeth PRIME Cymru fy helpu i ganolbwyntio ar yr hyn roeddwn i’n ceisio ei gyflawni, nid dim ond ar yr hyn roeddwn i’n gallu ei wneud. Gyda’n gilydd, fe aethon ni ati i bwyso a mesur fy sgiliau trosglwyddadwy – fy mhrofiad o weithio gyda phobl, er enghraifft – ac fe lwyddais i i gael y swydd hon sy’n berffaith i mi.”
A hithau bellach yn 75 oed, mae gan Barbara lwyth o egni a brwdfrydedd – digon i godi cywilydd ar bobl llawer iau na hi. Yn ei geiriau hi: “Dyw oedran yn ddim byd ond rhif. I fod yn llawn egni a bywyd, y gyfrinach yw meddwl eich bod chi’n GALLU gwneud rhywbeth – a pheidio â gadael i neb ddweud fel arall. Fe ddysgais i ddeifio yn 72 oed – roedd hwnnw’n brofiad bendigedig. Ry’n ni i gyd wedi cael ein cymell i feddwl bod bywyd yn stopio pan fyddwn ni’n ymddeol, ond dyw hynny ddim yn wir.
“Byddwn i’n cynghori unrhyw un i siarad â PRIME Cymru oherwydd fe fyddan nhw’n gallu eich helpu chi i agor eich llygaid a bwrw golwg mwy gwrthrychol dros eich profiad gwaith. Ar ôl trafod fy opsiynau â PRIME Cymru, roedd fy meddwl yn llawer mwy agored.”