Alex Holland, Mental Rentals
October 15, 2020

Diffoddwr tân yn cael hyd i lwybr gyrfa newydd ar ôl ymddeol gyda chymorth PRIME Cymru

Roedd Paul Harvey o Ben-y-bont ar Ogwr am newid trywydd ar ôl iddo ymddeol o’i yrfa hir yn y Gwasanaeth Tân.

Ar ôl iddo gysylltu â’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, i ofyn am gyngor, fe’i cynghorwyd i gysylltu â PRIME Cymru.

Ac yntau’n chwilio am “swydd braf” â llai o oriau, aeth ein Swyddog Datblygu, Debbie Price, ati i gynorthwyo Paul i fynd drwy’r broses recriwtio, cyf-weld a chyfnod prawf ar gyfer swydd Cynorthwyydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig.

Erbyn hyn, mae wedi cael hyd i swydd â thâl ac mae wrth ei fodd yn gweithio ar sail un i un gyda bachgen ifanc. Mae gan Paul nifer o wyron, felly mae’n gyfarwydd â phlant ac mae ganddo garfan o ddilynwyr bach yn barod.

Roedd gan Paul flynyddoedd lawer o brofiad o ddysgu diffoddwyr tân, a gradd mewn Addysg, ac fe dynnodd Debbie ei sylw at ei holl sgiliau trosglwyddadwy. Er bod ei CV yn llawn a’i fod yn meddu ar y cymwysterau cywir, aeth Debbie ati i’w gynorthwyo i olygu ei CV er mwyn iddo fod yn fwy eglur a pherthnasol.

Drwy gydol y cyfnod clo, mae Paul wedi bod yn gwirfoddoli yn ei gartref gofal lleol, gan ganu i’r preswylwyr i ddiolch am y gofal a gafodd ei dad-yng-nghyfraith yno. Eglurodd Debbie y byddai hyn at ddant cyflogwyr oherwydd ei fod yn dangos hyder a pharodrwydd i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Dywedodd Paul: “Mae’r diolch i gyd i Debbie. Roedd y broses recriwtio a chyf-weld yn teimlo mor ddieithr i mi erbyn hyn. Fe helpodd Debbie fi i ailysgrifennu fy CV ac i feithrin sgiliau cyf-weld.

“Alla i ddim canu ei chlodydd ddigon.”

Os ydych chi’n chwilio am gyfle i newid gyrfa, gallwn ni eich helpu chi i bwyso a mesur eich opsiynau. Cysylltwch â ni ar  01550 721813 neu enquiries@primecymru.co.uk.

Comments are closed.