Maint, Graddfa a Goblygiadau Diweithdra ymhlith y sawl sydd dros 50 mlwydd oed

Mae disgwyliad oes unigolion mewn economïau datblygedig wedi bod yn cynyddu’n raddol, gan osod mwy o straen ar genedl-wladwriaethau wrth i raddfa ddibyniaeth y boblogaeth gynyddu. Mae disgwyliad oes wedi cyrraedd ei lefel uchaf yn y DU, 77.7 blwyddyn ar ôl genedigaeth i ddynion a 81.9 blwyddyn ar ôl genedigaeth i ferched (ONS 2010).

Erbyn 2034, mae’r ONS yn amcangyfrif y bydd unigolion sydd yn 65 mlwydd oed a’n hŷn yn gyfwerth â 23% o’r boblogaeth tra y bydd 18% o’r boblogaeth yn 16 mlwydd oed neu’n iau. Mae angen adnoddau ychwanegol er mwyn cefnogi anghenion yr unigolion hŷn drwy ymddeoliad hwyrach ac mae gwneuthurwyr polisi wedi amlygu sut y bydd hyn yn creu heriau newydd ar gyfer yr economi achymdeithas.Er enghraifft, bydd angen adnoddau sylweddol er mwyn ariannu’r gwasanaeth cymorth ac iechyd a fydd eu hangen ar boblogaeth hŷn sydd yn tyfu wrth ddarparu incwm digonol iddynt yn ystod eu hymddeoliad. Yn ychwanegol at hyn, mae’ raddfa ddibyniaeth yn newid gan y bydd yna lai o bobl mewn cyflogaeth i gefnogi unigolion hŷn, a hynny gyda lleihad yn y nifer sydd yn talu’r dreth.

Un awgrym i ddelio gyda’r heriau sydd yn gysylltiedig â phoblogaeth sydd yn heneiddio yw ymestyn bywydau gwaith yr unigolion, sef rhywbeth y mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi ei wneud yn ddiweddar drwy gynyddu Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (SPA). Mae Llywodraeth Prydain wedi cyfrif y gallai gynyddu ei GDP blynyddol £13bn, pe gwnaed cynnydd o un flwyddyn yn oedran gwaith yr holl oedolion (BIS 2011:2). Awgrymwyd hefyd y byddai parhau i weithio i’r hyn a fu gynt yn ymddeoliad, yn lleihau’r pwysau yma bellach fyth.

Fodd bynnag, mae yna nifer o rwystrau i gyflogaeth llawn amser gan gynnwys materion yn ymwneud â dirywiad iechyd, cyfrifoldebau gofalu a gwahaniaethu ar sail oedran, a dyna paham y mae’n werth ystyried opsiynau eraill o gymharu â chyflogaeth